Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (92) |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13:30
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 6 ac 8 i 15. Ni ofynnwyd cwestiwn 7. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Cwestiwn Brys
Dechreuodd yr eitem am 14:18
Aled Roberts (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gais Comisiynydd Plant Cymru i lansio ymchwiliad newydd i gam-drin plant mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14:28
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Ad-Drefnu Addysg Uwch
Dechreuodd yr eitem am 14:41
4. Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Ymateb i adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ardaloedd Twf Lleol Powys
Dechreuodd yr eitem am 15:06
5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Law yn Llaw at Iechyd – Adroddiad Cynnydd Chwe Mis – gohiriwyd tan 13 Tachwedd
6. Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Wyddoniaeth - gohiriwyd
7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl
Dechreuodd yr eitem am 15:40
NDM5039 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio sy'n ymwneud â'r Banc Buddsoddi Gwyrdd
Dechreuodd yr
eitem am 15:47
NDM5040 Edwina Hart (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio sy’n ymwneud â’r Banc Buddsoddi Gwyrdd (y ”BBG”), i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9. Dadl ar Ymgynghoriad ar Bolisi Adfywio yn y Dyfodol
Dechreuodd yr eitem am 15:53
NDM5080 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r ymgynghoriad ar y polisi adfywio yn y dyfodol a gynhwysir yn 'Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid – Fframwaith Adfywio Newydd’.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw’r polisi adfywio yn y dyfodol yn cyfeirio’n ystyrlon at Orllewin Cymru o gwbl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
4 |
22 |
43 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r ymchwiliad parhaus gan Swyddfa Archwilio Cymru i drefniadau llywodraethu Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, ac i effeithiolrwydd trefniadau goruchwylio Llywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
0 |
43 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio wedi gwneud unrhyw fuddsoddiad yn y sector preifat yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
28 |
43 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw’r ymgynghoriad ar y fframwaith adfywio newydd yn cynnig unrhyw dargedau y mae modd eu mesur.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
28 |
43 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y polisi adfywio yn y dyfodol yn mynd i'r afael â'r diffyg cysylltiad rhwng ardaloedd menter Llywodraeth Cymru a’i seilwaith trafnidiaeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
27 |
42 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am gynigion penodol ar gyfer adfywio’r stryd fawr, gan gynnwys rhagor o fanylion am rôl bosibl ‘timau trefi’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
0 |
43 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5080 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r ymgynghoriad ar y polisi adfywio yn y dyfodol a gynhwysir yn 'Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid – Fframwaith Adfywio Newydd’.
Yn nodi'r ymchwiliad parhaus gan Swyddfa Archwilio Cymru i drefniadau llywodraethu Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, ac i effeithiolrwydd trefniadau goruchwylio Llywodraeth Cymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am gynigion penodol ar gyfer adfywio’r stryd fawr, gan gynnwys rhagor o fanylion am rôl bosibl ‘timau trefi’.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
0 |
43 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
10. Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Dechreuodd yr eitem am 16:30
NDM5081 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru ‘Sicrhau agenda gydraddoldeb a hawliau dynol gref – adolygiad Cymru 2011-12’.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ar lwyddiant y Gemau Paralympaidd er mwyn hybu agwedd gadarnhaol at anabledd, a mynd i'r afael â gwahaniaethu a throseddau casineb anabledd.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi nad yw un o bob wyth unigolyn ifanc rhwng 16 a 18 oed yng Nghymru mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau i fynd i’r afael â'r broblem hon.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod y disgwyliad oes yng Nghymru yn is ar gyfartaledd nag yn Lloegr, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a rhwng Cymru a gweddill y DU.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5081 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru ‘Sicrhau agenda gydraddoldeb a hawliau dynol gref – adolygiad Cymru 2011-12’.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ar lwyddiant y Gemau Paralympaidd er mwyn hybu agwedd gadarnhaol at anabledd, a mynd i'r afael â gwahaniaethu a throseddau casineb anabledd.
Yn nodi nad yw un o bob wyth unigolyn ifanc rhwng 16 a 18 oed yng Nghymru mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau i fynd i’r afael â'r broblem hon.
Yn nodi bod y disgwyliad oes yng Nghymru yn is ar gyfartaledd nag yn Lloegr, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a rhwng Cymru a gweddill y DU.
Derbyniwyd y cynnig, fel y'i diwygiwyd, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17:02
Daeth y cyfarfod i ben am 17:05
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 7 Tachwedd 2012